We use cookies to provide essential features and services. By using our website you agree to our use of cookies .

×

Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Alecs Rider: 4. Cyrch Eryr [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Traeth yn ne Ffrainc a haul tanbaid yn taro dyma lecyn perffaith i Alecs ddechrau ar ei wyliau, ond pan mae llofrudd oi orffennol yn tarfu ar y tawelwch does ond un peth iw wneud. Yn y nofel hon, mae Alecs yn benderfynol o fynd ar drywydd troseddwr y mae heddlur byd ar ei l, ond pan for MI6 yn gwrthod gweithredu ai gefnogi yn ei drybini diweddaraf, mae Alecs ar ei ben ei hun. Tydi ei ffrind Sabina ddim hyd yn oed yn ei gredu pan maen datgan wrthi ei fod yn ysbwr, ac mae hyn yn gwthio Alecs yn bellach ir ffau llewod, neun hytrach ffaur teirw wrth i Yassen ddieflig ei daflu i mewn i arena ymladd teirw. Ac nid yn unig Yassen sydd yn peri poendod i Alecs ond hefyd y seren bop, Damian Cray ffrind i Yassen sydd eton rhoi Alecs mewn dwr poethach fyth. Gan fynd ni o Ffrainc i Amsterdam a Llundain, maer nofel hon yn ein hatgoffa o ffilm James Bond i rai yn eu harddegau. Maer gwibio di-baid o le i le a'r cwlwm o gymeriadau trwy gydol y gyfres yn gweu iw gilydd yn amlwg iawn yn Cyrch Eryr, fel sy'n nodweddiadol o nofelau eraill Horowitz. Yn hon hefyd, mae stori garwriaeth Alecs a Sabina yn cyrraedd uchafbwynt gyda chusan rhwng y ddau'n dod rhamant ynghanol yr helbul. O ddarllen nofelau blaenorol y gyfres, maer darllenydd wedi gweld Alecs ar ei orau ac ar ei waethaf. Yn hon mae rhyw deimlad fod y cymeriad unwaith eto wedi codi ar ei draed a dialedd am farwolaeth ei ewythr sy'n ei yrru ir eithaf yn Cyrch Eryr. Dihangfa pur yw nofelau Anthony Horowitz ac maen nhw'n awr ar gael i ni eu gwerthfawrogi yn y Gymraeg. Llinos Griffin Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Home » Books » Children's » Fiction » General
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top