We use cookies to provide essential features and services. By using our website you agree to our use of cookies .

×

Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Ennyd [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Ar glawr blaen y gyfrol fach ddeniadol hon fe nodir mai’r hyn sydd o fewn i’r cloriau yw ‘cerddi a darluniau am fagu plant’. A dyna’n union a geir yma, gyda’r bardd John Emyr yn gyfrifol am y cerddi, a’i ferch, Luned Aaron, sy’n fam i ddwy ferch fach, yn gyfrifol am y darluniau. Ac mae cerddi a lluniau’r tad a’r ferch yn gyfuniad hynod effeithiol a llwyddiannus ac yn gwneud cyfrol a fydd yn sicr yn apelio at lawer. Gan fod y gyfrol mewn clawr caled hardd iawn, byddai’n gwneud anrheg fach berffaith i’w rhoi i fam sy’n magu baban neu blant ifanc, neu sy’n mynd i fod yn fam. Mae’r broliant byr ar y clawr cefn yn crisialu mewn brawddeg gynnwys y gyfrol, drwy ddweud mai ‘Munudau dros dro a ddethlir yma: profiadau cyntaf, defodau teuluol a’r momentau gwerthfawr a rannwn gyda’n plant a’n hwyrion’. Barn y Prifardd Robat Powell amdani yw ‘Mae’r gyfrol hon yn gampwaith’. O droi at y cerddi fe welir mai cerddi byrion, amrywiol sydd yma, a’r rheini ar fesurau caeth a rhydd. Mae yma nifer o englynion crefftus, cywyddau byrion, cwpled cynganeddol ac un englyn penfyr. Yn y mesurau rhydd ceir tribannau a nifer o gerddi syml odledig. Credaf y byddai un neu ddau o’r darnau hyn, megis ‘Camau Cyntaf’ a ‘Cestyll Tywod’, yn addas fel darnau llefaru i blant ifanc. Mae John Emyr yn fardd adnabyddus ac mae crefft y bardd i’w gweld yn glir yma, yn enwedig yn rhai o’r englynion. Mae’r farddoniaeth yn synhwyrus a phriodol ac yn cydblethu’n dda â’r llun sydd gyferbyn â phob cerdd. Mae Luned, y ferch, hefyd yn enw cyfarwydd yn y byd celfyddydol, gyda’i gwaith wedi cael ei arddangos, er enghraifft, yn y Safle Celf yn y Galeri, Caernarfon. Yn ddiweddar cyhoeddodd gyfrol arall arbennig ar gyfer plant ifanc, sef ABC Byd Natur, cyfrol a enillodd iddi wobr Tir na n-Og eleni. Mae cryn amrywiaeth yn arddull y lluniau a geir yn Ennyd, gyda rhai, yn enwedig y rhai ar ddechrau’r gyfrol, a naws annelwig, rithiol iddynt, tra bo eraill yn fwy eglur a phendant. Maent i gyd yn dangos dawn arbennig Luned fel arlunydd. Cyfrol fach i’w thrysori, felly, lle mae’r cyfuniad o ddoniau’r tad a’r ferch yn gweithio'n llwyddiannus iawn.
*John Meurig Edwards @ www.gwales.com*

Ask a Question About this Product More...
 
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top