Ers ei farwolaeth ym mis Gorffennaf 2014, ac yntaun 69 oed, talwyd sawl teyrnged haeddiannol i Gerallt Lloyd Owen, y gwr y cyfeirir ato fel Gerallt yr holl weithgaredd ym mhennawd erthygl gan Dafydd Iwan yn rhifyn coffa Gerallt o Barddas yn 2014. Ac o bori drwyr gwahanol erthyglau yn y rhifyn coffa hwnnw, down i sylweddoli maint cyfraniad y gwr arbennig hwn i fywyd y Gymru Gymraeg, a faint roedd lles a pharhad y Gymru honno yn ei olygu iddo. Fel un on beirdd mwyaf praff a disglair y bydd y mwyafrif ohonom yn meddwl am Gerallt. Dymar bardd a roddodd i ni gyfrolau a oedd yn pigo cydwybod, a oedd yn llefaru wrthym yn ddiflewyn-ar-dafod, ac a oedd yn ein rhybuddio. Yn dilyn Ugain Oed ai Ganiadau fe gawsom Cerddir Cywilydd ac ynar gyfrol a enillodd iddo wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1992, sef Cilmeri a Cherddi Eraill. Cilmeri, wrth gwrs, oedd yr awdl a enillodd iddo gadair Eisteddfod Abertawe yn 1982, yn dilyn ei lwyddiant gydag awdl Yr Afon ym Mro Dwyfor ym 1975. Ac yn awr dyma gyhoeddir gyfrol olaf o gerddi Gerallt, Y Gn Olaf. Fel y dywed Gruffudd Antur yn ei ragair, roedd ofn ar Gerallt y byddain cyhoeddi cerdd neu ryddhau cerdd oi afael a honno heb gyrraedd ei safonau uchel ef. Ond Gerallt ei hun oedd wedi dewis a dethol cynnwys y gyfrol olaf hon, felly gallwn fod yn gwbl sicr o safon y cerddi. Gwelodd rhai ohonynt olau dydd eisoes ar dudalennau Barddas a Taliesin, yn ogystal r cywydd croeso a ysgrifennodd i Eisteddfod Genedlaethol Eryri ar Cyffiniau, 2005. Ac mae hwn yn gywydd croeso nodedig iawn, gan fod Gerallt yn bwrw iddi reit or cychwyn in rhybuddio rhag y bygythiadau syn rhoin gwlad, ein hiaith an traddodiadau mewn perygl. Oes, mae yma wledd o groeso heddiw, ond croeso dan amod yw. Maen cyfeirio at y peryglon fel y llif yn bwytar llwyfan, ac amod y croeso yw ein bod, bedwar ban, yn rhwystro llifior llwyfan. Ceir ambell delyneg fer, gryno yn y gyfrol, megis Y Ffynnon a Cwm Maesglasau, a cheir sawl tudalen o gwpledi epigramatig hyfryd megis, Mae pob afon yn cronni ei dial oi hatal hi a Y cyw sicraf ei afael ywr cyw nad ywn arfer cael. Ceir llinellau unigol ar ffurf diarhebion, megis Awr beryg yw trir bore a Ni wyr y pry enwr pren. Ond cywyddau ac englynion yw prif gynnwys y gyfrol, a nifer or rheinin gerddi coffa. Mae yma gywyddau gwych i gofio am Moses Glyn Jones, Bedwyr Lewis Jones ac eraill, ond i mi ei gywydd coffa i Dic Jones yw campwaith y gyfrol. Bu Dic a Gerallt yn gweithio gydai gilydd am flynyddoedd ar Talwrn y Beirdd ar y radio ac roedd y ddaun gyfeillion mawr. Maer ing o golli cyfaill mor agos yn cael ei fynegin grefftus dros ben yn y cywydd hwn, ac yn atgoffa dyn o rai o gerddi coffa gwych Dic Jones ei hun. Maer un sglein ar bob un or englynion hefyd, fel y gellid disgwyl gan un a oedd yn feistr ar y mesur. Erys llinellau fel Nintendo yw plentyndod ar cwpled teledun teulu ydoedd, llond ty o ddiwylliant oedd wrth iddo sn am ei atgofion am Llwyd or Bryn. Cyfrol olaf deilwng iawn, felly, yw hon gan fardd a ddaeth yn ffefryn cenedl. Cofiwn ei ffraethineb ai hiwmor wrth dalyrna yn yr Eisteddfod ac ar y radio, ond o dan y wn ar chwerthiniad direidus roedd yna ddwyster mawr hefyd dwyster gwr a boenain angerddol am ddyfodol ei iaith ai genedl. Cyfrol werth ei phrynu, yn sicr. John Meurig Edwards Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |