We use cookies to provide essential features and services. By using our website you agree to our use of cookies .

×

Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Iddew [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Magwyd fi, chwedl yr hen ystrydeb, ar fronnaur ysgol Sul. Dysgais yn gynnar yr hen, hen hanes. Darllenais yr hanes hwnnw wedyn yn yr Efengylau. Ond ni wnes erioed ei ddarllen fel hyn. Dyma, yn sicr, y nofel fwyaf grymus ac ysgytwol a ddarllenais ers tro. Maer hanes yma yn cychwyn gydar croeshoeliad cyn ailgychwyn gyda chenhadaeth Crist ai wyrthiau. Dychwelwn at y croeshoeliad, ond nid dynar diwedd. Chwe blynedd yn ddiweddarach cawn Shaul (Saul/Paul) yn ymdynghedu i barhaur gwaith. Yr hyn sy'n eich taro gyntaf ywr defnydd o enwau Iddewig am y bobl a'r lleoedd sydd mor gyfarwydd i ni. Cawn, er enghraifft, Nehar ha Yarden (Iorddonen), Natzrat (Nasareth), Yohannan Mamdana (Ioan Fedyddiwr) a Yeshua bar-Yosep (Iesu fab Joseff). Fe wnaeth yr awdur ddisgrifioi nofel fel taith arteithiol dyn tuag at hunanymwybyddiaeth. Ie, taith dyn. Mae hynnyn ddweud arwyddocaol. Gydol y daith honno cawn weld y ddeuoliaeth sydd hefyd yn gyfuniad o Grist y dyn ar dyn sydd Grist. Ble maer ffin rhwng y ddau? A oes yna ffin? A drodd Yeshuan Dduw erbyn diwedd ei daith ddaearol? Maer arddull drwyddi draw yn bwerus. Effeithiol iawn ywr dull o ailadrodd geiriau a chymalau, yn arbennig felly yng ngolygfeydd y croeshoelio ar Glgat, Ller benglog. Ller lladd. Portreadir y croeshoeliad yn ei holl fryntni, yn ei holl artaith. Nid marwolaeth urddasol ac aruchel oedd croeshoeliad. Na, fei portreadir yma yn ei holl realiti hyll, yn fwy fel dehongliad Mel Gibson yn The Passion of the Christ nag un gan artistiaid fel Michelangelo a Fra Angelico. Holl fwriad croeshoelio ir Rhufeiniaid oedd achosi cymaint o artaith ag yr oedd modd, gan barhaur artaith honno gyhyd phosibl. Mewn cyfnod newydd o wrth-Semitiaeth mae hon yn nofel hynod amserol. Maen ein hatgoffa ac mae angen gwneud mai Iddew oedd Crist ac mai Iddewon oedd ei ddilynwyr cyntaf. Rhyfedd fel y tueddwn i anghofio hynny. Wn i ddim a gaiff darllen Iddew effaith wahanol ar Gristnogion ac ar anffyddwyr. Fel un syn Gristion, fe wnaeth darllen y nofel gryfhau fy ffydd. Maen cadarnhau i mi eiriaur emynydd Titus Lewis mai Mawr yw Iesu yn ei berson / Mawr fel Duw a mawr fel dyn. Cryfder pennaf y nofel yn y pen draw yw iddi beidio phregethu. Nid ywn ceision perswadio y naill ffordd nar llall. Dim ond dweud yr hen, hen stori mewn dull cwbl ysgytwol. A byddair Esgob William Morgan ei hun yn amenior arddull odidog. Lyn Ebenezer Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top