We use cookies to provide essential features and services. By using our website you agree to our use of cookies .

×

Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Saith Selog [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

A Welsh adaptation of Enid Blyton's The Secret Seven by Manon Steffan Ros. Following the success of the Welsh-medium Pump Prysur series Manon Steffan Ros has now focused her talents towards preparing a Welsh adaptation of the Secret Seven Colour Reads. The new series follows the adventures of seven children who have formed a secret club in a shed at the bottom of the garden. The series includes six titles of page turning adventures! The series have been illustrated by Tony Ross who also prepared the artwork for the Pump Prysur series. Saith Selog has been designed to target younger readers and less confident readers than the Pump Prysur series. This series aims to inspire young readers to read more books.
*Cyhoeddwr: Atebol*

Addasiad Manon Steffan Ros o The Secret Seven gan Enid Blyton. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfres Pump Prysur sef addasiad Manon Steffan Ros o'r gyfres The Famous Five gan Enid Blyton, mae Atebol yn falch o gyhoeddi y byddwn yn lansio'r gyfres Saith Selog ym mis Gorffennaf 2016. Mae'r llyfr hwn a'r gyfres gyfan yn gyflwyniad delfrydol i ddarllenwyr newydd, a ffordd gyffrous i edmygwyr Blyton fwynhau'r hen ffefrynnau. Mae Saith Selog yn gyforiog o straeon antur difyr sydd wedi'u selio ar helyntion saith plentyn sydd wedi creu 'clwb' arbennig sy'n cwrdd yn rheolaidd mewn sied ar waelod yr ardd. Mae chwe llyfr o helyntion yn y gyfres. Mae'r gyfres hon fel y gyfres flaenorol yn cynnwys lluniau trawiadol gan yr arlunydd enwog Tony Ross. Yn wahanol i'r Pump Prysur, bydd y gyfres hon yn targedu darllenwyr iau a darllenwyr sydd ddim mor hyderus. Mae'r print yn fras a'r cynnwys yn haws i'w ddarllen. Nod y gyfres yw ysgogi plant i ddarllen ac ennyn diddordeb mewn llyfrau. Rydym yn gobeithio bydd y plant sy'n darllen y gyfres hon yn awyddus i symud ymlaen i ddarllen cyfres y 'Pump Prysur'. Pan mae'r Saith Selog yn ymweld â hen dŷ gwag, maen nhw'n sylweddoli nad ydi o'n wag wedi'r cyfan! A fyddan nhw'n gallu dianc ar ôl cael eu cloi yn yr hen le dychrynllyd?
*Cyhoeddwr: Atebol*

Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros ydy Ble mae’r Saith Selog?, ac yn rhan o gyfres boblogaidd y Saith Selog, sef addasiad o un o gyfresi Enid Blyton, The Secret Seven Short Stories Collection. Dyma stori fer lawn antur yng nghwmni’r Saith Selog, sef saith o ffrindiau ffyddlon: Colin, Pedr, Jac, Gwion, Mali, Sioned a Bethan – a Sgamp y ci, wrth gwrs, yr arwr bach blewog! Mewn cwt yn yr ardd mae’r Saith Selog yn cyfarfod i fwynhau cwmni ei gilydd. Un dydd Sadwrn mae’r Saith Selog yn penderfynu mynd ar eu beics am dro, ac yna i fusnesa o amgylch yr hen dŷ arswydus! Yn y tŷ erchyll mae’r Saith Selog yn darganfod llawer iawn o focsys sy’n llawn trysorau. Ond mae rhywun arall yn y tŷ hefyd, rhywun cas a chreulon! Ar amrantiad mae’r Saith Selog mewn trafferth. Mae’r stori yn llawn tensiwn wrth i’r criw gael eu cloi yn yr hen bantri rhewllyd. Teimla’r saith yn hynod o ddiflas yn yr ystafell fechan am oriau heb enaid byw yn y tŷ. Ond beth ydy’r sŵn rhyfedd sy’n codi ofn arnynt? Pwy sydd yn achub y dydd, tybed? Dyma lyfr darllen addas ar gyfer plant 6–8 oed sy’n mwynhau darllen llyfrau enwog Enid Blyton. Mae’r addasiad yn un da, sy’n cynnwys iaith loyw ac idiomau sy’n addas i’r oedran ifanc. Mae’r awdures yn gorffen pob pennod mewn man pwysig felly mae’r llyfr yn hawdd ei ddarllen ac yn llawn cyffro. Does dim gormod o ysgrifen ar y tudalennau felly mae’r llyfr yn ddelfrydol i blant sy’n ddarllenwyr newydd neu'n ddihyder. Cawn luniau byw, priodol a doniol gan yr arlunydd Tony Ross. Heb os nac oni bai, bydd plant sy’n hoffi antur yn awyddus iawn i ddarllen y llyfr, ac ar bigau drain i ddarganfod pwy sy’n achub y Saith Selog.
*D. Meleri Rees @ www.gwales.com*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Home » Books » Children's » Fiction » Classics
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top