Y trydydd mewn cyfres wreiddiol o ‘straeon denu darllen’. Wedi eu
hanelu at blant 6+, dyma ddwy stori ffraeth a difyr sy’n cynnwys
sefyllfaoedd a chymeriadau lliwgar y gall plant heddiw uniaethu â
nhw. Lluniau du a gwyn hwyliog gan Hannah Doyle.
Y BWS HUD
Hen drwyn oedd Mabli Mai. Doedd dim byd yn well ganddi na rhoi ei
thrwyn smwt ym musnes pawb. Roedd hyn yn ei chael i bob math o
helyntion. Ond mae un daith ar y Bws Hud yn newid popeth...
O.M.B.
Cawr clên a charedig oedd Orig Mwyn Benfawr. Daeth tro ar fyd, a
dysgodd O.M.B. pa mor anodd yw hi i fod yn gawr clên a charedig pan
fo’r ‘Bobl Fach’ yn creu llanast o hyd!
*Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch*
Dyma ddwy stori arall wreiddiol a difyr yng Nghyfres Clec. Bwriad y
gyfres yw denu plant tua 6 oed i ddarllen, a does dim dwywaith fod
Eurgain Haf, awdur y ddwy stori, wedi llwyddo i greu cymeriadau
doniol a straeon bachog. Mae negeseuon pwysig yn cael eu rhannu
yma, gan ddefnyddio iaith gyfoethog o ran geirfa a phriod-ddulliau,
ac mae’n debyg y byddai angen peth cymorth ar y darllenwyr ifanc i
ddeall pob gair.
Yn ‘Y Bws Hud’ cawn hanes Mabli Mai. Mae Mabli’n ferch fach
fusneslyd iawn sydd eisiau gwybod hanes pawb! Yn wir, wrth fod mor
fusneslyd, mae’n ei chael ei hun ar fws yn llawn o’r bobol
ryfeddaf, a’r bws yn mynd i ‘Un Man ac i Bob Man’.
Yn ystod y daith, mae’n nhw’n ymweld â mannau rhyfedd hefyd;
llefydd fel Llansannau sy’n ddrewllyd iawn, ac Aberysgwydd sy’n
llawn adeiladau a chestyll anferth. Cyn hir mae Mabli'n cael llond
bol ar hyn i gyd ac am ei throi hi am adre. Ond dyw’r gyrrwr ddim
am droi’r bws ar urhyw gyfri, ac erbyn hynny mae’r teithwyr eraill
i gyd yn chwerthin am ei phen. Druan o Mabli? Wel, bydd raid i chi
ddarllen er mwyn gweld sut y daw'r antur i ben.
Yn yr ail stori, cawn hanes O.M.B. (Orig Mwyn Benfawr). Mae Orig yn
gawr, ond cawr caredig yw e, fel mae ei enw’n ei awgrymu. Sylwodd
ei fod yn wahanol i’r cewri eraill pan aeth i Ysgol y Cewri. Roedd
y cewri eraill eisiau codi ofn ar bawb, ond eisiau helpu’r ‘Bobl
Fach’ roedd Orig am ei wneud.
Heb yn wybod i neb, roedd e a’i gi bach Smotyn yn byw mewn ogof o
dan y Cerrig Siglo. Trwy ei berisgop, roedd wedi bod yn astudio’r
Bobol Fach yn mynd â’u cŵn am dro, yn siarad am y tywydd ac yn
gwrando ar eu sgyrsiau. Roedd yn arbennig o hoff o glywed pobl yn
dweud “O, Mam Bach”, gan mai dyna lythrennau ei enw ef hefyd. Ond
roedd un peth yn gwylltio O.M.B., a hynny oedd yr holl sbwriel oedd
yn cael ei daflu ar lawr gan y Bobl Fach. Byddai Orig yn casglu
gwahanol eitemau ar gyfer eu hailgylchu; bu’n rhaid iddo roi
cymorth i anifeiliaid oedd wedi llyncu sbwriel hefyd, a helpu
Smotyn wrth i hwnnw fynd i drafferthion yn y bin ...
Erbyn diwedd yr hanes mae O.M.B. wedi cael llond bol ar rai o’r
‘Bobl Fach’ ac wedi penderfynu bod yn gas am unwaith. A wnaeth
hynny lwyddo? Gwell i mi beidio â difetha’r darllen i chi.
*Hefin Jones @ www.gwales.com*
Ask a Question About this Product More... |