Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Ani-Feil-Aidd [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Mae dysgur wyddor, heb os, yn gallu bod yn dipyn o dasg i blentyn ond nid mwyach gydar llyfr hwn yn eich meddiant. Maer bardd Gwyn Thomas ar arlunydd Jac Jones wedi cael andros o hwyl yn llunio pob math o gerddi a lluniau amrywiol anifeiliaid. Ac amrywiol iawn ydyn nhw hefyd or armadilo ir ystlum! Mae rhai or anifeiliaid yn adnabyddus megis neidr a llew ond faint ohonoch chi rieni sydd wedi clywed am y threskiornithidae? Peidiwch disgwyl penillion rhy ddifrifol am yr anifeiliaid hyn, da chi. Cael hwyl a mwynhau barddoniaeth ar yr un pryd yw'r nod. Maer heienan dysgu chwarae fiola mewn cerddorfa yn Vienna! Ac ydi, mae hin rili anodd/bod yn Llew efor ddannodd! Dyma lyfr cwbl addas i blant o bob oed. Gwnaethpwyd ymdrech arbennig iawn i wneud yr wyddor Gymraeg, yr iaith, a'i barddoniaeth yn hwyl ddi-ben-draw! Dyma anrheg hyfryd syn werth pob ceiniog. Sarah Down Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.