Addasiad o Grandpa Christmas gan Michael Morpurgo.
*Cyhoeddwr: Atebol*
Addasiad Cymraeg Mari Lisa o Grandpa Christmas gan Michael
Morpurgo, yr awdur plant uchel ei barch, yw Anrheg Nadolig Taid.
Mae hi’n stori annwyl ac atgofus sydd â neges amserol am ofalu am
ein daear. Roeddwn i’n edrych ymlaen yn arw at gael darllen y
llyfr, diolch i apêl y clawr deniadol sy’n dangos un o ddarluniau
arbennig Jim Field. Rydw i’n hoff iawn o’r darluniau bendigedig
drwy'r llyfr; maen nhw’n ychwanegu at naws gyfarwydd, hiraethus ac
agos atoch y stori, ac yn adlewyrchu ei thema ganolog. Mae’n llyfr
dwyieithog, ond mae wedi ei ddylunio mewn modd sy’n rhoi
blaenoriaeth amlwg i’r Gymraeg, gyda'r Saesneg mewn ffont llai ar
bob tudalen. Mae’n darllen fel cyfrol Gymraeg, felly, ond gall
darllenwyr di-Gymraeg ddilyn trywydd y stori ar yr un pryd. Ni
cheir stori anturus, gyffrous yma, ond yn hytrach fyfyrdod ar ffurf
llythyr gan Taid i’w wyres fach. Mae’r stori’n dechrau o safbwynt
yr wyres, Mia, sydd bellach yn oedolyn wrth iddi ddisgrifio sut y
mae hi’n rhannu llythyr a gafodd gan ei thaid pan oedd hi’n blentyn
gyda’i theulu bob Nadolig. Wedyn, cawn ddarllen y llythyr, gan
glywed am ddymuniad Taid am fyd gwell i’w wyres fach. Mae’n ei
hannog hi a’i chenhedlaeth i ofalu am y ddaear – am fyd natur, ei
chreaduriaid a'i moroedd. Yn y llythyr, mae’n datgan ei ddymuniad y
caiff hi fyw mewn byd heb ryfel na gwastraff, heb newyn na llwgu, a
lle mae’r moroedd yn lân a chreaduriaid yn rhydd, heb berygl o gael
eu hela neu gaethiwo. Rwy’n teimlo i mi allu dychmygu cymeriad Taid
yn glir, gan deimlo’n agos ato a pharchu ei egwyddorion tuag at
warchod ein planed. Er i mi deimlo bod y llyfr yn gorffen braidd yn
swta, rwy’n edrych ymlaen at gael ei ddarllen yn uchel i fy mhlant
bach. Dydy’r iaith ddim wedi ei symleiddio’n ormodol, ond nid yw hi
chwaith yn rhy anodd i blant i'w deall. Mae darluniau hyfryd a
neges gadarnhaol, obeithiol y stori yn gwneud hon yn anrheg wych i
blentyn ifanc.
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |