Hurry - Only 3 left in stock!
|
Cynnwys
Traddodiad Barddol Ynys Môn – Llion Pryderi Roberts
Sonia Edwards
Annes Glynn
R. J. H. Griffiths (Machraeth)
Dewi Jones
Geraint Jones
Harri Jones
Myfanwy Bennett Jones
Richard Parry Jones
Gwyn Lloyd
Ann Wyn Owen
Rhian Owen
Ieuan Parry
Alan Wyn Roberts
Dorothy Roberts
Ioan Gwilym Roberts
Glyndwr Thomas
Cen Williams
Syniad rhagorol oedd cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth beirdd bro
Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cyffiniau yn 2013, a braf oedd
i eisteddfodau Sir Gâr a Maldwyn fachu ar y syniad a chyhoeddi
cyfrolau o waith beirdd eu broydd hwy. A nawr dyma’r bedwaredd
gyfrol yn ymddangos, a hynny mewn da bryd ar gyfer Eisteddfod Môn
2017. A chyfrol gyfoethog yw hi hefyd, gyda dau ar bymtheg o feirdd
yn cael eu cynrychioli yma (un ar ddeg o ddynion a chwech o
wragedd).
Cyn mynd ymlaen i sôn tipyn am y cynnwys, rhaid cyfeirio at glawr
blaen lliwgar y gyfrol, clawr sy’n tynnu sylw ar unwaith. Darlun
ydyw o flodau ar Ynys Llanddwyn, un o fannau enwocaf Môn yn sicr,
ac ynys y cariadon. Gwaith Janet Bell yw’r llun, ac mae’n siŵr gen
i ei fod yn dwyn atgofion melys i’r rhai hynny ohonom a gerddodd
draw tuag at y goleudy a phrofi o swyn a rhin y lle.
Mae’r gyfrol hon eto’n dilyn patrwm y cyfrolau blaenorol. I
ddechrau cawn gyflwyniad i draddodiad barddol y fro, a hwnnw’r tro
hwn wedi’i lunio gan Llion Pryderi Roberts. Ar ddiwedd y cyflwyniad
cawn restr ddefnyddiol o ffynonellau y dyfynnwyd ohonynt. Cawn ein
tywys drwy’r canrifoedd, o gyfnod beirdd fel Meilyr Brydydd hyd
heddiw. Mae’r cyflwyniad yn un cryno, cynhwysfawr, ac yn nodi pa
mor gyfoethog yw traddodiad barddol yr ynys, traddodiad sy’n
cynnwys enwau cyfarwydd fel Gruffudd Gryg a Goronwy Owen, yn
ogystal â rhai llai adnabyddus i ni heddiw megis Gronw Gyriog a
Sefnyn. Cenid i destunau oesol megis serch, natur a chrefydd, yn
ogystal â sôn am frwydrau, canu darogan a marwnadu. Sonnir am
ddylanwad Cylch y Morrisiaid yn y ddeunawfed ganrif a’u gwaith yn
hyrwyddo’r Gymraeg a’i llenyddiaeth. Mae yma hefyd le i’r Bardd
Cocos yn y cyflwyniad!
Yna down at y beirdd a’u gwaith. Ceir llun du a gwyn o bob bardd,
ynghyd â bywgraffiad byr, a dilynir hyn gan ddetholiad o’i gerddi.
Ac yn naturiol mae’r cerddi hynny’n amrywio’n fawr o ran cynnwys a
mesur, gyda’r caeth a’r rhydd yn cael lle amlwg. Mae blas pridd Môn
ar lawer iawn o’r cerddi ac mae gwahanol leoedd ar yr ynys yn cael
sylw amlwg.
Mae Llanddwyn a’i hud yn amlwg iawn yma, megis yng nghywyddau
byrion Annes Glynn a Richard Parry Jones, ac mae cariad ac anwyldeb
at fannau arbennig ar yr ynys yn glir iawn mewn cerddi fel ‘Lôn
Bryn Engan’ a ‘Trwyn Dwrban’ gan Dewi Jones. Mannau poblogaidd
eraill gan y beirdd yw Eglwys Sant Cwyfan a Mynydd Bodafon.
Mae’r traddodiad o ganu cerddi coffa yn amlwg yn fyw iawn a cheir
nifer o rai gwirioneddol dda yn y gyfrol, gan gynnwys ambell englyn
cofiadwy, fel un Richard Parry Jones i ‘Bedwyr’. Cerddi a apeliodd
ataf oedd cywydd Ieuan Parri i ‘Gwyn 1936–2016’, dau englyn Glyndwr
Thomas i ‘Ifan Gruffydd (Y Gŵr o Baradwys)’ a cherdd Cen Williams,
‘Hau i Fedi – er cof am Carol’.
Ceir ambell dinc ysgafn yma ac acw yn y gyfrol, ac mae ‘Ffrindiau
Jên’ gan Geraint Jones yn siŵr o godi gwên. Go brin y caiff
Machraeth unrhyw urddau brenhinol yn sgil ei englyn i’r ‘Tywysog
Siarl’, sy’n cychwyn â’r cwestiwn, ‘Ble gebyst gest ti’th
glustiau?’ Mae rhyw dristwch yng ngherdd Gwyn M. Lloyd i ‘Taid a’i
Ŵyr’, lle mae’r ŵyr a fu’n treulio cymaint o amser yng nghwmni ei
daid yn tyfu i fyny ac yn dod yn fwyfwy annibynnol ar y taid hwnnw.
Ond mae llawer o ysgafnder gogleisiol yn y gerdd hefyd.
Cyfrol ddeniadol i edrych arni, ac un amrywiol ei chynnwys, felly.
Rhaid canmol y golygydd am ei lafur yn rhoi’r cyfan wrth ei gilydd
a rhoi i ni gyfrol gyfoethog sy’n ychwanegiad teilwng at y cyfrolau
eraill o waith beirdd bro’r eisteddfod.
*John Meurig Edwards @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |