'Traddodiad Barddol Sir Gar' - Ysgrif gan Tudur Hallam
Aled Evans
Gyda cherddi gan:
Arwyn Evans
Meirion Evans
Peter Hughes Griffiths
Tudur Hallam
Mererid Hopwood
Arwel John
Einir Jones
Gwen Jones
John Gwilym Jones
Tudur Dylan Jones
Aneirin Karadog
Mari Lisa
J. Beynon Phillips
Elinor Wyn Reynolds
Geraint Roberts
T. M. Thomas
Dafydd Williams
Harri Williams
Yn dilyn cyhoeddir gyfrol Beirdd Bror Eisteddfod y llynedd, i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych ar Cyffiniau, roedd yn braf gweld cyfrol gyffelyb yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Sir Gr eleni. Y golygydd y tro hwn yw Geraint Roberts, y gwr a oedd yn gadeirydd Is-bwyllgor Llenyddiaeth yr Eisteddfod eleni. Ceir pennod agoriadol yn dwyn y teitl Traddodiad Barddol Sir Gaerfyrddin, gan Tudur Hallam. Mae hon yn bennod werthfawr, gryno syn olrhain traddodiad barddol y sir yn l i gyfnodau cynnar llenyddiaeth Gymraeg, ac yn gosod beirdd y sir drwyr canrifoedd yn eu cyd-destun Cymreig. Datblygodd y traddodiad o gyfnod y cywyddau cynnar drwodd i ganu newydd y vers libre. Pennod lawn gwybodaeth, felly, am rai o geiliogod disgleiriaf y sir, chwedl yr awdur. Cerddi gan bedwar ar bymtheg o feirdd cyfoes y sir yw cynnwys y gyfrol pedwar ar ddeg o ddynion a phum merch, ac yn eu plith mae nifer o brifeirdd. Fe'u cyflwynir i ni yn nhrefn yr wyddor, ac mae bywgraffiad byr a diddorol yn rhagflaenu cerddi pob un ohonynt. Fel y gellid disgwyl, mae amrywiaeth eang yng nghynnwys y cerddi ar mesurau, ac mae lle amlwg ir caeth ar rhydd. Yn naturiol, mae nifer fawr or cerddi wedi'u gwreiddio yn nhir a daear Sir Gr, ac eraill yn sn am wrthrychau a phobl syn gysylltiedig r lle. O droi at Mene Tecel Sir Gaerfyrddin gan Peter Hughes Griffiths, a luniwyd ar gyfer Gwyl Gyhoeddi'r Eisteddfod eleni, cawn banorama o hanes, traddodiadau ac enwogion y sir, o dderwen Myrddin hyd at ddyddiau Gerald, Grav a Roy a Delme. Yn ogystal r enwau cyfarwydd, maen braf gweld yma gerddi mewn print gan feirdd sydd heb gyhoeddi llawer ou gwaith. Er enghraifft, pleser mawr i min bersonol oedd darllen cerddi Arwyn Evans o Gynghordy, gwr y cefais y fraint o gydweithio ag ef am flynyddoedd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, a gwr a fun ddylanwad mawr ar y Twm Morys ifanc. Mae gan ei gerddi rhydd ryw naws delynegol hyfryd, ac mae Arwyn yn gynganeddwr medrus iawn hefyd, fel y dengys ei englynion. Er bod y gwragedd yn y lleiafrif yn y gyfrol, maer pump sydd yma yn feirdd or iawn ryw. Go brin fod angen cyflwyno Mererid Hopwood i lengarwyr Cymru y ferch sydd eisoes wedi cipior Gadair, y Goron ar Fedal Ryddiaith yn ein Prifwyl. Maer un naws ar tynerwch ag a gafwyd yn ei hawdl Dadeni yn Eisteddfod Sir Ddinbych 2001 iw canfod yma mewn cerddi megis Alaw a Hwiangerdd Afon Tywi. Ym mhumdegau a chwedegaur ganrif ddiwethaf fe gyhoeddwyd cyfres o lyfrau mewn cloriau glas yn cynnwys cerddi beirdd gwahanol siroedd, gydag Awen yn y teitl, er enghraifft Awen Myrddin. Rhaid llongyfarch pobl Sir Ddinbych a diolch iddynt am roi cychwyn ar gyfres arall gyffelyb o gynnyrch beirdd bror gwahanol eisteddfodau. Wn i ddim a ywn fwriad gan Faldwyn i barhau r gyfres y flwyddyn nesaf pan ddawr Eisteddfod i Feifod, ond gobeithion fawr y gwneir hynny. Yn y cyfamser, prynwch y gyfrol ddifyr ac amrywiol hon, a mwynhewch beth o gynnyrch beirdd Sir Gr, gan ddiolch ir sir honno am roi i nir fath wyl wych eleni. John Meurig Edwards Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |