Y chweched o Fai ac mae na ddau etholiad. Dau? meddech chi. Ia, ac ar hyn o bryd does dim amheuaeth ynglyn pha un sy wedi gafael ynof i. Rydw i yng nghanol berw hystings Caersaint a fedra i yn fy myw roi'r nofel i lawr. Mae dau arweinydd gwahanol iawn yma - Med Medra i slicrwydd ai ffraethineb, ochr yn ochr r Jamal naf, onest a gwylaidd. Ond fe fydd yn rhaid i chi ddarllen nofel Angharad Price i gael y canlyniad. Go brin y byddai ceisio gwerthu nofel sydd yn sn am etholiad yn denu neb iw benthyg heb sn am ei phrynu pan for cyfryngau wedi ein trochi (an boddi ar brydiau ) gyda blas a diflastod yr etholiad. Peidiwch phoeni, mae Caersaint (ar enwau cyfareddol fel Tonwen Bold, Angharad Bugbird, Babs Inc, Alun Stalin ac eraill) yn ddifyrrwch pur o grwydro hamddenol braf o Ffordd Bethlehem i gyfeiriad Stryd Victoria, hebio Gwynfa Stores ar siop jips i ferw tafarn y Mona ai theulu anghymarus ac anghytn. Yma, down i gwmni Pepe, Heulwen Hwr, Haydn Palladium, Phil Golff, Pen Monyn a Magnum, y daeargi mwngral. Arwr y nofel (ac mae on dipyn o arwr) ydy Jamal Gwyn Jones ac mae ei fywyd yn ddrych o fywydau nifer o rai eraill, sydd fel pe bai bywyd ei hun yn chwarae triciau nhw - anffodusion syn cael a cholli, sydd bron chyrraedd ac ynan crwydro, yn dyheu am y newydd ac eton methu gollwng yr hen. Maen ddirdynnol ar brydiau. Ar brydiau yn unig oherwydd dyma gryfder Angharad Price. Maen gallu cyflwyno gwirioneddau a chondemniad grymus on cymdeithas wrth iddi wneud i ni chwerthin yn braf ar yr un pryd ... Ir rhai ohonom a wirionodd ar O! Tyn y Gorchudd mae edrych ymlaen mawr wedi bod am ei hail gyfrol. Ond mae hon yn gyfrol hollol wahanol, ond yr un mor orchestol gan mai clust a llygad llenor arbennig iawn sydd y tu l i hon hefyd. Llygaid yr un awdur an swynodd Chwm Maesglasau syn gweld ac yn disgrifio Coronau gleision Eryri. Porfeydd gleision y tir. Y Fenain las arian. Ac yng nghanol hyn i gyd, fel brenhines nad oedd yn fawr ond mawreddog, ond eton urddas i gyd, ymgodai tref Caersaint yn dyrau ac yn doeau ar rheinyn disgleirion borffor las wedi glaw a haul y gwanwyn. Yr un glust firain a wrandawodd ar sgwrs Evan bach ai nain yng nghegin gefn Tynybraich sydd hefyd yn clywed sgwrs Alun Stalin a Jamal Gwyn: Does gin i ddim diddordab mewn gwleiyddiaeth. Nag oes, mwn. Maer hogyn acw yn ty ni yn union yr un fath. Petha difrifol yn mynd ymlaen yn ei dre fo i hun ... Dach chin pathetig. Plant Thatcher ... Siwpyrgliwioch tina i st compiwtars, er bod gynnoch chi goesa ar rheiny yn gweithio. Eich penna ach calonna wediu heijacio gan Bill Gates a Richard Branson ... Yn dal heb eich argyhoeddi? Wel, mae yma stori garu hefyd! Eirwen Llwyd Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com,/i>, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |