Dechreuodd diddordeb Nici mewn coginio wrth draed ei mam, a byth
ers hynny mae wedi mwynhau arbrofi yn y gegin. Sefydlodd fwyty
pop-yp yng Nghaernarfon rai blynyddoedd yn ôl, a hyd heddiw mae'n
darparu bwydydd blasus ar gyfer digwyddiadau yn yr ardal. Hi yw un
o sylfaenwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon a Gŵyl Arall.
Mae'r llyfr coginio hwn yn gwneud defnydd o gynnyrch yn ei dymor
mewn ffordd syml, flasus. Gellir gwneud nifer helaeth o'r seigiau
mewn un pot a heb lawer o offer cymhleth, sy'n ddelfrydol ar gyfer
myfyrwyr a theuluoedd prysur. Mae symbolau arbennig yn cael eu
defnyddio i nodi lle gellir addasu'r rysáit i gydfynd â deiet
gwahanol e.e. figan, diglwten, di-laeth ac ati, ac i nodi'r prydau
hynny y gellir eu paratoi mewn hanner awr neu lai.
Wrth gwrs, mae yma ddanteithion tipyn llai iachus hefyd − ond mae'n
rhaid cael amrywiaeth mewn bywyd, does!
Bydd PARTI i ddathlu cyhoeddi 'CEGIN', llyfr ryseitiau newydd Nici
Beech, Nos Wener, Tachwedd 4ydd am 7.30 yh, yng Nghlwb Canol Dre,
Caernarfon, yng nghwmni Dyl Mei. Adloniant gan Hywel Pitts a Dau
Cefn.
Bydd llond y lle o ddanteithion blasus o'r llyfr i'w blasu, a chwrw
lleol ar werth tu ôl i'r bar.
Croeso cynnes i bawb.
*Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch*
Ask a Question About this Product More... |