Hurry - Only 2 left in stock!
|
Hoff gerddi ac esboniadau gan:
Matthew Rhys
Caryl Parry Jones
Dafydd Iwan
Alys Williams
Lisa Gwilym
Heledd Cynwal
Lleuwen Steffan
Mark Lewis Jones
John Ogwen
Tara Betha
Aeron Pughe
Sioned Terry
Aled Hughes
Roy Noble
Cefin Roberts
Catrin Finch
Ed Holden
Huw Edwards
Beti George
Trystan Ellis-Morris
Huw Stephens
Brian Hughes
Rhodri Owen
Betsan Powys
Richard Elis
Siw Hughes
Rhodri Gomer
Ffion Dafis
Wil Tân
Daniel Lloyd
Dyma dymor y chwilio am anrhegion cain i’w rhoi wrth y goeden
Nadolig, a bydd y llyfr clawr caled hwn a’i ddiwyg hardd yn apelio
at lawer. Me'n llyfr hawdd picio i mewn iddo a mwynhau cerdd neu
ddwy sydd wedi cyffwrdd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd â deg ar
hugain o 'sêr', a darllen eu rhesymau am ddewis y cerddi hynny. Y
cwestiwn sy’n codi yn fy mhen i bob amser wrth weld y gair ‘sêr’,
neu eiriau cyfatebol, fel celebrity yn Saesneg, yw pam dewis y bobl
arbennig hyn? Y duedd yw i berfformwyr a phobl y cyfryngau ddewis o
blith ei gilydd yn unig, a dyna a wnaed yma i raddau helaeth iawn.
Lle mae’r athrawon, y meddygon, y nyrsys, y cyfreithwyr a’r
cyfieithwyr, y gwyddonwyr a’r peirianwyr, ac yn wir y gwleidyddion
(ar wahân i Dafydd Iwan, sy’n berfformiwr hefyd)? Nid ar yr
unigolion a ddewiswyd y mae’r bai, wrth gwrs, ac mae’n hyfryd
darllen sylwadau pobl fel Caryl Parry Jones, Brian Hughes, Matthew
Rhys ac ati: mae’r bai ar y cyfryngau am beidio â rhoi digon o sylw
i bobl sy’n dod i frig eu proffesiynau mewn meysydd eraill, neu i
bobl sy’n gwneud cyfraniad gwiw yn wirfoddol. Yn ffodus, dydy’r
‘sêr’ yn y gyfrol hon ddim i gyd yn eu cymryd eu hunain ormod o
ddifri. Mae John Ogwen, yn arbennig, yn barod iawn i godi gwên ar
ei draul ei hun, wrth adrodd yr hanes amdano’n cystadlu yn rownd
derfynol Talwrn y Beirdd, ac wrth gerdded ymlaen i gyflwyno ei
englyn yn clywed llais Gerallt Lloyd Owen yn adrodd y tu ôl iddo:
Peth digri iawn yw berfa Sydd isio bod yn dractor, Peth trist yw
isio bod yn fardd A chitha’n ddim ond actor! Mae darllen y
cyflwyniadau i’r cerddi yn ddifyr, a’r rhesymau am eu dewis yn
amrywio o atgofion am blentyndod i werthfawrogiad o ddylanwadau
amrywiol. Ac er gwaethaf y cefndir tebyg sydd gan lawer o’r
cyfranwyr, mae’r cerddi a ddewiswyd yn amrywiol iawn hefyd. Ceir
dwyster ‘Cwmorthin’ gan Gwyn Thomas ar un pegwn a doniolwch ‘Y
Ddafad Gorniog’ ar y llall, gyda cherdd fel ‘Nene Ene’, Gwynne
Williams yn cyfuno’r dwys a’r doniol. Bydd rhai cerddi’n cynhesu
eich calon oherwydd eu bod yn hen ffrindiau cyfarwydd, ac eraill yn
cynnig profiadau newydd, gwerthfawr. Tybed a fydd y pleser o droi
dalennau’r gyfrol hon yn aros amdanoch fore dydd Nadolig?
*Glenys M. Roberts @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |