Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Cofiannau'r Lolfa [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Cael ei guro’n ddidrugaredd gan dri Chymro enwog yn ysgol fonedd fwyaf sadistaidd Cymru, Coleg Llanymddyfri; helpu ei dad i gipio sedd seneddol gyntaf Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin yn isetholiad syfrdanol 1966, a ffurfio band roc Cymraeg cyntaf Cymru – dyna rai o’r profiadau ysgytiol yn y dyddiadur lliwgar hwn gan Dafydd Evans, un o feibion Gwynfor Evans. Cawn ganddo ddadleniadau cignoeth teenager o 1957 yn ddisgybl anfoddog yn Llanymddyfri, hyd at 1968 ar ôl treulio pedair blynedd gynhyrfus yng Ngholeg Aberystwyth. Yng ngholeg Seisnig, Anglicanaidd, Llanymddyfri cafodd ei guro’n frwnt gan Dai Black, y prefect deddfol, yr actor a mab y mans Anghydffurfiol, Huw Ceredig. Pentyrru gofidiau wedyn ar ôl cael ei waldio hyd waed gan y prifathro, ‘ Y Bouncer’, neb llai na Dr G.O. Williams, a ddaeth yn ddiweddarach yn Archesgob Cymru. Ac i goroni’r gofid, yn ei byjamas yn ystafell yr athro Cymraeg cafodd yr un driniaeth dan law Carwyn James yr eicon rygbi: “Rhoddodd chwech strôc galed i mi gyda’r cane . . . erbyn y pedwerydd o’n i’n gwegian. Erbyn y chweched o’n i hanner ffordd i’r llawr . . . hon yw’r ail waith yn y second year sixth i fi gael chwech strôc o’r cane gan Carwyn. Penderfynu fy mod am adael y twll o le hyn, ta beth sy’n digwydd. Ffonio Dadi heddiw i weud fy mod wedi penderfynu gadel.” Ymadawodd â’r ’twll o le’, ond nid oes ateb yn y llyfr hwn i’r cwestiwn – pam y caniataodd y cenedlaetholwr a’r heddychwr Gwynfor Evans i’w fab fynychu’r fath le? A beth fyddai hanes yr Archesgob a’r eicon rygbi wedi bod heddiw yn wyneb y fath farbareiddiwch? Dihangodd i ysgol y wladwriaeth, Llandeilo, a ffurfio yno grŵp roc Saesneg, y Fireflies, gan ddangos ei ddiddordeb ysol mewn roc a rôl ers dyddiau Bill Haley ac Elvis. Y diddordeb hwnnw yn parhau wedyn fel myfyriwr meddygol yn Llundain wrth chwarae mewn bandiau eraill a byw fel beatnik. Wedyn rhoddodd y gorau i feddygaeth a dychwel i astudio’r gyfraith yn Aberystwyth. Yno cofnoda’n gyffrous ei fywyd cynhyrfus, yn flaenllaw gyda Chymdeithas yr Iaith, Plaid Cymru a mudiadau eraill, heb sôn am sgwennu a dylunio straeon amheus a rhywiol i’r cylchgrawn arloesol Lol. Tra oedd yn Aber hefyd cafodd ei wthio’n anfoddog ac yn fethiannus i sefyll fel ymgeisydd ym Meirion, ond mae hefyd yn cofnodi yma ei ran ym muddugoliaeth ei dad yng Nghaerfyrddin yn isetholiad 1966, gyda straeon difyr a dwys am yr ymgyrch. Mae’n onest yn cydnabod hefyd mai annisgwyl oedd y fuddugoliaeth, a byrhoedlog, a bod amhoblogrwydd y llywodraeth Lafur ac aneffeithiolrwydd y Rhyddfydwyr a’r Torïaid wedi cyfrannu’n sylweddol at ennill sedd gyntaf Plaid Cymru. Pinacl y llyfr, fodd bynnag, yw ei gyfraniad allweddol yn ffurfio’r grŵp roc Cymreag cyntaf – y Blew. Dyma stori ysgytiol: cynnwrf, cyffro, cynnal gigs, recordio a chythruddo’r parchus, gan gynnwys ei deulu ei hun, a moderneiddio canu pop Cymraeg. Arloesi wnaethant, er bod y mwyafrif o’r caneuon yn gyfieithiadau o ganeuon Eingl-Americanaidd a’r cyfan yn dod i ben fel seren wib erbyn 1968. Ni chawn wybod hanes Dafydd Evans wedi hynny. Ni olynodd ei dad yn ffigwr blaenllaw ym Mhlaid Cymru na chyfrannu i adloniant Cymraeg. Ond yn y llyfr lliwgar hwn cawn hynt a helynt difyr teenager unigryw yn y 50au a’r 60au a’i gyfraniad arbennig i ganu roc Cymraeg.
*Emyr Price @ www.gwales.com*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Home » Books » Biography » General
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.