Dyma lyfr clawr caled i'w drysori. I'm bechgyn 5 a 7 oed sydd wrth eu bodd ym myd hud a lledrith, fe afaelodd y llyfr o'r eiliad gyntaf, a hynny oherwydd y darluniau gwych ar y clawr. Yn fras, yr hyn a geir yn y llyfr hwn yw ffeithiau am bob math o greaduriaid sydd yn ein llen gwerin ni, a choelion oedd yn gyffredin ac sy'n dal i fod yn gyffredin mewn ambell ardal. Yn y cyflwyniad fe nodir fod llawysgrifau gwreiddiol y Dewin Myrddin wedi'u darganfod mewn ogof yn Sir Gaerfyrddin, ac yno fe ddarganfuwyd llawysgrif oedd yn disgrifio creaduriaid hud. Y Ddraig Goch, wrth reswm, sy'n cael y lle blaenllaw ar y dudalen gyntaf. A gwych oedd clywed y plant yn ailadrodd y disgrifiadau ohoni -- disgrifiadau fel 'dwy adain fawr fel rhai ystlum', 'pedwar bys fel crafanc' a 'chynffon fachog'. Oherwydd mai byr yw'r penodau am bob creadur, mae'n rhoi cyfle i blentyn ailadrodd yn syth yr hyn a ddysgodd, ac i ofyn cwestiynau. Er doedd gen i ddim ateb i'r cwestiwn pam fod y Bodach Glas yn mynd i lawr simneiau i ddwyn plant drwg?! Ond fe fihafiodd y ddau acw wedi darllen y stori honno, a mynd i'w gwelyau'n syth! Mae'r rhan fwyaf o'r creaduriaid yn y gyfrol yn cael eu lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru. Dywedir bod Gwragedd Annwn wedi cael eu gweld yn Llyn Barfog yng Ngwynedd. Yn siroedd Brycheiniog a Mynwy y cafodd Gwyllon eu gweld. Ym mynyddoedd y Preseli y lladdodd y Twrch Trwyth ddau o feibion y Brenin Arthur, ac ogofau yw cartref Coblynnod, yn ol y son. A thrwy enwi ardaloedd penodol yng Nghymru, mae'r straeon hyn yn gafael yn nychymyg plentyn. Mae'r cyffro, yr edmygedd a'r ofn yn amlwg ar eu hwynebau. Dros y Sul, fe aethom ni i draeth Llangrannog, ac roedd hi'n bleser gweld y plant yn rhedeg tuag at y creigiau, nid er mwyn ffugio bod yn Spider-man neu'n Power Ranger, ond er mwyn esgus taw Bwca Pwca, Bwganod a Cheffylau Dwr oedden nhw yn llercian yn yr ogofau ar y traeth. Mae'r math yma o straeon at ddant bechgyn, sydd bellach yn rhy hen i wylio rhaglenni Cyw ar S4C. Byddai cartwnau gyda'r cymeriadau yma ynddynt yn berffaith ar eu cyfer. Cymeriadau ffiaidd yr olwg, straeon annymunol -- dyna sy'n cydio yn nychymyg y meibion, a hyd yn hyn, beth bynnag, dwi'n falch o ddweud nad yw'r cymeriadau yma wedi treiddio i mewn i'w breuddwydion nhw! A chan fod y gyfrol yn cael ei disgrifio fel 'llyfr o hunllefau hudolus', mae hynny'n dipyn o ryddhad! Straeon bachog, a lluniau gwych -- mae'r llyfr hwn yn anrheg ben-blwydd berffaith, sy'n debyg o yrru ias i lawr asgwrn cefn ambell blentyn ac ambell oedolyn hefyd! Iola Wyn Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |