Mae Gêm Beryglus yn stori drosedd sy’n digwydd yn ardal Bannau
Brycheiniog, lle mae llofrudd wedi lladd ei ysglyfaeth gyntaf.
Mae'r awdur yn ysgrifennu mewn ffordd ddiddorol, gan ddechrau yn y
person cyntaf, sef y llofrudd, ac wedyn newid i’r trydydd person
wrth ddilyn yr ymchwiliadau gan yr heddlu a’r ymdrechion i ddal y
llofrudd. Mae e’n newid yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau safbwynt, ac
fel hyn mae'r darllenydd yn dilyn stori’r llofrudd ar un ochr – ei
gynlluniau a'r llofruddiaethau – ac ar yr ochr llall yn dilyn
stori’r Ditectif Arolygydd Cadog Williams, y Rhingyll Heledd Davies
a’r swyddog fforensig Ffion Roberts. Mae’n ddull effeithiol,
oherwydd ar y dechrau mae'r darllenydd yn gwybod beth mae'r
llofrudd yn mynd i'w wneud, a hefyd ble, pryd a sut, cyn i’r heddlu
wybod. Felly’r dirgelwch yw pam, a phwy yw’r llofrudd mewn
gwirionedd. Tra bod y stori yn mynd rhagddi mae’r llofruddiaethau
yn dod yn agosach at ei gilydd ac mae sawl trywydd a chliw yn
arwain yr heddlu at yr atebion, ac yn y diwedd at uchafbwynt
cyffrous. Ar y dechrau ro’n i’n teimlo ychydig bach yn
anghyfforddus ynghylch darllen meddyliau llofrudd, ond wedyn
dechreuais fod eisiau gwybod mwy am y cymeriadau. Dysgais i fwy am
seicoleg trosedd, sut mae'r heddlu yn gweithio mewn sefyllfa fel
hyn, a pha mor anodd yw eu gwaith. Mae’r llyfr hwn yn addas ar
gyfer dysgwyr ar lefel Canolradd, ac mae’r eirfa ar waelod y
tudalennau yn ddefnyddiol.
*Rosina Roberts de Sousa @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |