Pleser oedd cael y cyfle i adolygu cyfrol arall o waith Alun John
Richards, sy'n adnabyddus fel awdur toreithiog gwahanol lyfrau'n
ymwneud ag agweddau ar y diwydiant llechi yng Nghymru. Wedi trin a
thrafod hanes nifer fawr o chwareli dros y blynyddoedd, mae'r awdur
yn troi ei olygon yn ei lyfr diweddaraf, Crefftwyr Llechi tuag at y
grefft o naddu'r garreg las i'w llunio'n greiriau cywrain. Arweinir
y darllenydd mewn modd hynod ddifyr o gyfnod Oes yr Haearn i'r
presennol, wrth i'r awdur olrhain y defnydd a wnaed, ac a wneir,
o'r llechfaen dros y canrifoedd. Rhyfeddwn at ddyfeisgarwch dyn, ac
at y myrdd o bethau gwahanol a wneid o'r garreg las, a gwelir
enghreifftiau o hynny ar y tudalennau. Cymaint â dwy fil a hanner a
mwy o flynyddoedd yn ôl, byddai'n hynafiaid yn gwneud defnydd o
ddarnau o'r llechfaen i grafu crwyn anifeiliaid ac fel cerrig crasu
ac ati. Byddai'r Rhufeiniad wedyn yn eu defnyddio i adeiladu a
llorio, ond aeth sawl canrif heibio cyn y daeth llechi yn
boblogaidd ar gyfer toi, gan greu masnach fyd-eang i chwareli Cymru
ymhen amser. Cawn ein hatgoffa gan yr awdur sut y datblygodd y
diwydiant, ac i nifer o unigolion arallgyfeirio i greu celfyddyd
llechen, ac i sawl cerflunydd ragori yn y grefft. Daeth y garreg
las mor boblogaidd fel defnydd crai ar gyfer adeiladwaith y dyddiau
hyn, fel y gwelir nifer o adeiladau blaenllaw Cymru yn cael eu
haddurno gan y llechfaen, megis adeilad y Cynulliad, Canolfan y
Mileniwm a'r Amgueddfa Forol a Diwydiannol Genedlaethol.
Cyfoethogir y gyfrol gan nifer fawr o luniau trawiadol, a llawer
ohonynt mewn lliw. Llyfr hynod ddiddorol yw hwn, ac yn llawn
gwybodaeth, fel y disgwylid gan awdur mor brofiadol ag Alun John
Richards. Mae i'w longyfarch am waith safonol, fel arfer.
*Vivian Parry Williams @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |