Bywyd y Bardd
Y Gwr a'i Grefft
Canu Dafydd
Meistrolaeth ar ei Grefft
Awen Beraidd
Bardd Serch
Rhwystrau
Canu Natur
Canu Crefyddol
Amser Dyn a Diwedd Dyn
Amcan y gyfrol fach hon yw cyflwyno barddoniaeth Dafydd ap Gwilym i ddarllenwyr newydd, a does neb gwell i wneud hynny na Gwyn Thomas. Mae gan Gwyn ddawn arbennig i egluro materion dyrys yn gryno a dod a llenyddiaeth y gorffennol yn fyw trwy ddal ar hanfod y profiad dynol digyfnewid. Ac mae ei arddull anffurfiol, rwydd yn creu'r argraff o lais yn sgwrsio'n hamddenol, gan ddenu'r darllenydd i rannu ei fwynhad. Mae'r llyfr hwn yn fwy na darllenadwy; mae bron yn glywadwy. Ac mae gwedd weledol y llyfr yn ddeniadol iawn hefyd. Mae golygydd Cyhoeddiadau Barddas, Elena Gruffudd, a'r dylunydd Olwen Fowler yn haeddu clod am greu diwyg hardd sy'n cydweddu'n berffaith a'r pwnc. Cynhwysir nifer o luniau bach o lawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru trwy gynllun DigiDo, ac mae'r rhain yn addas iawn i gyd-fynd a cherddi sydd ag elfen weledol mor gryf. Addas hefyd yw'r pwyslais ar adnabod y gwr yn y cerddi, gan mai'r argraff o bersonoliaeth y bardd yw'r peth mwyaf deniadol am gerddi Dafydd ap Gwilym i lawer o ddarllenwyr modern. Fe'n hatgoffir yn gyson, ac yn hollol briodol, mai persona bwriadus a welir ac nid crewr y cerddi ei hun, ond gyda hynny o rybudd mae Gwyn yn ei elfen yn adnabod a chyflwyno'r gwr difyr hwn inni. Crynhoir yr ychydig dystiolaeth sydd i'w chael am fywyd Dafydd, ac yna trafodir nifer o'i gerddi mwyaf nodedig. Ni ragdybir unrhyw wybodaeth am farddoniaeth y cyfnod, ac mae aralleiriadau yn gymorth i ddarllenwyr ddeall pob dyfyniad. Efallai mai cyfrinach llwyddiant y gyfrol hon yw'r ffordd y mae Gwyn Thomas yn ymuniaethu a Dafydd ap Gwilym fel bardd; mae'r un hiwmor direidus a'r un dileit mewn chwarae efo geiriau i'w gweld yng ngwaith y ddau fardd, a'r un blas ar fywyd wedi'i finiogi gan ymwybyddiaeth o'i freuder. Mawr obeithiaf mai'r gyntaf mewn cyfres fydd hon, ac y cawn gyfrolau tebyg ar rai o fawrion eraill y traddodiad barddol, ond anodd fydd dod o hyd i awdur a gwrthrych sy'n gweddu cystal i'w gilydd. Dafydd Johnston Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |