Hurry - Only 4 left in stock!
|
Ni charwn fod yn feirniad gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni, gan mor anodd fyddai dewis rhwng tair cyfrol o stabal Gomer, sef cyfrol Alan Llwyd, Bob, cyfrol Derec Llwyd Morgan am fywyd Thomas Parry, Y Brenhinbren, ar gyfrol hon am grwydriadau cynnar y trydydd or tri chefnder, T. H. Parry-Williams. Awgrymais mewn adolygiad yn Lleu mair gyfrol ar Syr Thomas Parry a fyddain mynd a hi, ond wedi darllen llyfr manwl Angharad Price, teimlaf mai dymar gyfrol sydd bellach yn rhagori. Ychydig o drafod a fu ar y Parry-Williams cynnar, er gwaethaf cyfrol Dyfnallt Morgan, Rhyw Hanner Ieuenctid, a thraethawd ymchwil doethurol Llion Jones, y dylid bod wedi cyhoeddi fersiwn ohono ymhell cyn hyn. Rhaid i mi gyfaddef mair bardd aeddfed a aeth am bryd i, ac mai fel prentisweithiau yr ystyriwn yr awdlau ar pryddestau eisteddfodol cynnar. Roedd y bardd swil o Ryd-ddu yn ymddangos fel Modernydd hwyrfrydig, ac er y gwyddem oll am ei grwydriadau yn Rhydychen, Freiburg a Pharis, ac wrth gwrs am ei deithiau mentrus i Dde a Gogledd America, tueddu i anwybyddur rhain a wnair mwyafrif ohonom gan na wnaeth y bardd ei hun ryw fr a mynydd ohonynt ei hun. Ond wedi darllen y gyfrol hon, gwelir ir bardd aeddfed diymffrost guddio llawer ar ei feddylfryd cynnar, a bod hwnnwn llawer mwy chwyldroadol nag a dybiem or blaen. Ceir yma drafodaeth fanwl ar gerddi arobryn Eisteddfod Wrecsam, ac er i lawer ohonom edrych arnynt yn ddigon trwynsur fel gweithiau anaeddfed ieuenctid, gwelir eu bod yn llawer mwy chwyldroadol nag a dybiem or blaen. Beth a wyddem ninnau am gyfnod y bardd yn Rhydychen, Freiburg a Pharis? Fawr mwy na dim, a rhaid cyfaddef mai argraff ddigon tila a gefais i o ddinas Freiburg pan ymwelais ar lle ar ryw bnawn glawog rai blynyddoedd yn ol bellach er imi ymweld ar Brifysgol gan obeithio cael ychydig o ysbrydoliaeth Parry-Williams. Ond dim oll gresyn na fuasair gyfrol hon ar gael y pryd hynny, fel y byddwn o leiaf yn ymwybodol o ddylanwadau Bergson, Heidegger, Walter Benjamin, Husserl ac eraill ar y bardd o Ryd-ddu. Rydym yn rhy barod i anghofio mai gradd Ddosbarth Cyntaf yn yr Almaeneg a gawsai Angharad Price cyn troi i ymchwilio i waith Robin Llywelyn yn Rhydychen, a dod yn feirniad Cymraeg praff fel darlithydd yn Adrannau Cymraeg Prifysgolion Caerdydd a Bangor. Ydyw, mae hin dyfynnun helaeth a hunanhyderus or Almaeneg, y Ffrangeg ar Saesneg, ac yn feistr corn ar y cefndir Cymraeg yn ogystal. Llyfr yw hwn syn goleuo corneli tywyll llenyddiaeth Gymraeg ar ddechraur ugeinfed ganrif. Maen llyfr gwreiddiol dros ben, ac yn agoriad llygad i un na throediodd Y Ddinas ond yn ail-law a phetrus iawn. John Rowlands Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |