Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


John Meirion Morris - Artist [Welsh]
By

Rating
Hurry - Only 2 left in stock!

Product Description
Product Details

Reviews

Dywed y broliant ar gefn y llyfr mai John Meirion Morris yw cerflunydd cyfoes amlycaf Cymru, a gwir y gair. Pwrpas y llyfr, yn l Gwyn Thomas, ydi rhoi crynodeb oi yrfa yn ogystal cheisio dadansoddi detholiad oi weithiau. Rhaid dweud or cychwyn fod dawn ysgrifennu Gwyn Thomas yn ei wneud yn llyfr hawdd ei ddarllen. Cawn ein tywys trwy ddyddiau cynnar yr artist yn ardal Llanuwchllyn i ddylanwadau pellteroedd Ghana yn Affrica. Ar l crynodeb bywiog a diddorol o fywyd yr artist, mae gweddill y llyfr wedi ei osod mewn penodau byr, bachog ar ffurf cwestiwn ac ateb rhwng yr awdur ar artist ei hun. Maer dull yma o gofnodi yn effeithiol ac yn galluogir holwr i wyntyllu a threiddio i mewn i feddwl a meddylfryd yr artist. Gofynna Gwyn Thomas amryw o gwestiynau dwfn ac ystyrlon sydd yn annog yr artist i ddatgelu ac esbonio'i deimladau a'i brofiadau dyfnaf. Cawn fewnwelediad i feddylfryd John Meirion Morris ai ddull o greu, syn tarddu o weledigaethau a myfyrdodau cychwynnol cyn mynd ati i ffurfio'i gampweithiau. Maen amlwg fod y cyfnod o weithio mewn coleg celf yn Ghana wedi dylanwadu llawer arno fel artist ac fel person, yn ogystal 'i ddull o weithio. Cyfeiria'n aml at y broses o weld gweledigaethau a ffurfiau, a'r broses honno yn ei thro yn ei ysgogi i greu'r darnau celf. Mae ei gefndir Cymreig yn ddylanwad mawr arno hefyd, ynghyd i ddiddordeb mewn chwedloniaeth ar Celtiaid. Gwelwn elfennau o'i genedlaetholdeb gref yn ei ddarnau megis Cofeb Tryweryn, Y Cr a Rhiannon. Cawn drafodaeth fywiog rhwng yr awdur ar artist wrth astudio a dadansoddi gweithiau unigol. Ni ellir anwybyddu'r cerflun Piet wrth adolygur llyfr. Dyma gerflun trawiadol ac ingol. Maer cerflun yn dynodi tristwch a galar ar eu dyfnaf, wrth i John ai wraig Gwawr geisio esbonior boen o golli mab drwy gyfrwng cerflun a cherdd. Maer lluniau lliw or cerfluniau yn sicr yn ychwanegu at y mwynhad o ddarllen y llyfr, ac maer lluniau hynny'n ategur testun gan greu astudiaeth deilwng o waith yr artist hynod hwn. Cyfrol i'w thrysori ac un sy'n portreadu rhyfeddod ac athrylith yr artist yw hon. Sioned Glyn Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.