Llif Coch Awst
Fern Hill
Lli ac Archan
Mapio
Cwm Elan
Llifogydd
Tyrfa
Y daith i Orsedd y Cwmwl
Gwylio Adar
Argae
Dymuniad ...
Annibendod
Dyfodol
Y bluen eira
Taflu Cerrig
Addurno’r Goeden
Atgof
I Dylan
Efyrnwy a Banwy
1914
Gair
Gweithdy
Dur
Dic
Gerallt
Gwynfor
Ynys
Ffydd a phaent
Clawdd terfyn
Y gadair ddu
Egin
Y ferch sy’n byw ’da Padraig Pearse
Gwanwyn yn Llangynog
‘Cofiwch Dryweryn’
Sêr
Google Mars
Dawns
Wrth Sgwennu
Dinasoedd
Y lloerig
Laitumkhrah
Cyngor Teithio
Y Gân Ogleddol
Sut mae mynd i deml Tao
Sgwâr St. Marko
Ynghylch y tywydd drwg
Mehefin 2016
Lens
Disgwyl am y wawr
Bore
I fis Mehefin 2016
Trioedd Pwll y Tŵr
I Dafydd Jones
Hel arian papur
Teilwyr
Y map dwfn
Croesi dros Gei Newydd
Ebenezer
I Osian
Diymadferth
Gwalia Deserta 2012
I Gareth ac Elin
I Eurig a Rhiannon
I Eurig yn 30
I Aran a Heledd
Medi yn Aber
Gwe
Fel daearegydd, bydd Hywel Griffiths yn ymwybodol iawn o rymoedd
byd natur. Mae’n arbenigwr ar y rhewlifoedd hynny a luniodd ein
tirwedd gan adael plethwaith o gymoedd dyfnion a dyffrynnoedd eang
ar eu hôl. Nid oes ryfedd, felly, mai nentydd ac afonydd yr hafnau
hyn sydd yn dyfrhau a ffrwythloni ei awen yntau hefyd. Y gwaddod
a’r gro mân a gariwyd gan eu llif hyd lawr y dyffryn dros y
canrifoedd sy’n lliwio’r cerddi.
Fe’i magwyd ar fferm i’r gorllewin o Gaerfyrddin rhwng aberoedd
Tywi a Thaf ac mae atgofion melys am gynaeafau bore oes yn
cyfoethogi’r gyfrol; dyma’i Fern Hill yntau. Yna symudodd ymlaen am
lannau Ystwyth gan ennill gradd ddigon da i gael swydd darlithydd
yn y Coleg ger y Lli. Yno, wrth edrych allan tua Chantre’r Gwaelod,
gresynai fod cymaint o’n cyfoeth diwylliannol o dan y môr a’i
donnau. O gofio hyn, mae’n anochel i’w flynyddoedd fel myfyriwr
gydredeg â chyfnod o weithredu brwd dros Gymdeithas yr Iaith ac
mae’r achos yn dal yn agos at ei galon, fel y dengys ei gerdd i
Osian, un o’i hymgyrchwyr diweddaraf.
Symudodd ymlaen wedyn i Gwm Eleri gyda’i wraig, Alaw, ac yno yn
Nhal-y-bont yr ysgrifennwyd y mwyafrif o gerddi’r gyfrol hon. Yno y
ganwyd y plentyn cyntaf, Lleucu Haf, a hynny ychydig ddyddiau cyn
i’r llifogydd difrifol daro’r pentref. Dilynwyd hi gan fab, Morgan
Hedd, ac mae i’r tri ohonynt le amlwg o fewn y tudalennau.
Weithiau, er hynny, bydd dyn yn mynnu ymyrryd â llif yr afonydd hyn
drwy gronni’r dyfroedd heb ystyried bywyd y dyffryn yn ei
gyfanrwydd, yn amgylcheddol nac yn gymdeithasol. Mae’r naturiaethwr
a’r Cymro ynddo yn dal i gofio Tryweryn – a Chwm Elan ac Efyrnwy
hefyd.
Ac yntau bellach wedi dychwelyd gyda’i deulu at lannau Rheidiol yn
Llanbadarn Fawr, cawsom atlas o gyfrol ganddo sy’n mapio’i
ddatblygiad fel bardd ac fel person. Pleser pur fu cael dilyn
afonydd Cymru yn ei gwmni.
*Idris Reynolds @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |