Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Llio! Beth Yw'r Haf i Mi? [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Gan barhau â chyfres ddyddiadur Llio ar gyfer merched yn eu harddegau, mae'r ail deitl Beth yw'r Haf i Mi? yn ddilyniant i Y Dyddiadur Bach, wrth i Llio wynebu gwyliau hir yr haf heb gwmni Trystan, y crwtyn ciwt drws nesa yr oedd hi'n ei ffansïo. Aiff Llio a'i mam i dreulio gwyliau'r haf gyda Mamgu yn y wlad. Gweddw digon anodd i gyd-dynnu â hi yw’r hen wreigan, ond er gwaetha popeth, hi yw Mamgu, ac mae’n rhaid ei charu (a'i dioddef) oherwydd hynny.

Tra'u bod yn aros gyda Mamgu, daw mam Llio o hyd i nifer o hen atgofion o'i ieuenctid ei hun sy'n profi nad yw'r gagendor rhwng y ddwy genhedlaeth mor anferth â hynny wedi'r cwbwl. Yr un math o bethau sydd ar feddwl y ddwy, a'r mwya o'r rheiny yw cariad – neu'n fwy penodol sut i wneud yn siŵr fod gan y ddwy ohonyn nhw serch yn eu bywydau. Daw mam Llio ar draws sawl hen fflam yn ei bro enedigol, ond mae'n profi'n anodd iawn cynnau tân serch ar hen aelwyd Mamgu, yn enwedig pan fo'r cof am Rhisiart golygus, sy'n byw drws nesa nôl yn y dre, yn fyw yn ei meddwl. A beth am Llio? Gyda Trystan wedi diflannu heb ddweud ffarwel, tybed ddaw hi o hyd i fachgen perffaith arall?

Ac fe ddaw'r prawf terfynol pan ddychwela Llio a'i mam adre o'u gwyliau. A fydd Rhisiart a Trystan yno? Does dim byd yn sicr nes y daw'r ddwy oddi ar y trên!
*Cyhoeddwr: Dalen (Llyfrau) Cyf*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.