Bro fy mebyd
Yr aelwyd
I'r ochr draw
Gwyliau: 'Tanygrisiau, dyma fi'n dod'
Ysbrydion
Amser rhyfel
Pethau dramatig
Byd addysg
Mythau a symbolau
Ffilmiau
Natur
Caneuon
BBC
Plant
Diwedd
'Rydw i'n bechadurus o gonfensiynol Gymraeg cyn belled ag y mae bro
fy mebyd yn y cwestiwn:
"Mae Tanygrisiau a'r Blaenau yn annwyl i mi,
Gwlad ..."
Gwlad beth? Pechadurus o gonfensiynol eto ydi dweud mai gwlad o
bobol oedd yn gymdeithas agos at ei gilydd oedd hi yn ystod fy
machgendod i. Roedd yna reswm da am hynny, achos gwlad lle'r oedd
llawer o'i dynion hi'n gweithio mewn creigiau, yn gweithio ynghanol
mynyddoedd oedd hi, a chaledi'n dwyn pobol at ei gilydd. A gwlad
oedd hi, yn fy mhlentyndod, a aeth trwy gyfnod o ryfel. Eironig,
wrth gwrs, ydi'r defnydd o'r gair 'pechadurus' uchod: mater o
ffaith ydi fod ein cymdeithas ni, erbyn hyn, wedi colli rhywbeth
gwerthfawr iawn trwy inni i gyd fynd yn fwy crafangog a
hunanol.'
Mae'r gyfrol hon yn 'Llyfr y Mis' gan Gyngor Llyfrau Cymru yn ystod
Tachwedd 2015.
*Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |