Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Llywelyn ein Llyw Olaf [Welsh]
By

Rating
Hurry - Only 2 left in stock!

Product Description
Product Details

Reviews

Mae unrhyw un sydd yn ymddiddori mewn Hanes yn ymwybodol fod y pwnc yn mynd trwy gyfnod anodd ar hyn o bryd. Cafwyd adroddiad yn y Times Education Supplement ym mis Mai yn hawlio bod diddordeb yn y pwnc yn dirywio, a bod y sylw i hanes lleol yn dameidiog, ar y gorau. Dynar sefyllfa yn Lloegr, ta beth, ond yng Nghymru maer pwnc yn mynd trwy gyfnod euraid wrth i nifer cynyddol astudior pwnc i lefel TGAU a Safon Uwch. Dawr llwyddiant hynny yn sgil yr ymdrechion syn cael eu gwneud i ddod hanes yn fyw ym meddyliau ein plant ifanc, ac maer gyfrol hon gan Gwyn Thomas yn sicr yn esiampl wych o hynny. Maer gyfrol yn rhannol ffeithiol ac yn rhannol ddychmygol am gyfnod cythryblus a chyffrous yn hanes ein cenedl. Er nad yw hyn yn plesio haneswyr pur, dymar cyfuniad hanfodol er mwyn dod r gorffennol yn fyw ym meddyliau ein plant. Cydnabyddir fod y gwaith yn rhyw fath o ymyrraeth r gorffennol, ond nid yw hynny yn tynnu dim oddi ar waith syn llwyddo i gyflyru a diddori drwyddi draw. Maer cymeriadau - Llywelyn ap Gruffydd ai arch-elynion Henri ac Edward yn cael eu portreadu fel pobl go iawn, ac mae hynny yn apelio at feddyliau ifanc sydd yn mwynhau straeon antur fel hon. Mae yna gyffro yma or dechrau ir diwedd. Mae darluniau Margaret Jones, sydd yn hynod liwgar a deniadol, yn ychwanegu at y stori ac yn rhoi cig a gwaed ir cymeriadau. Gall yr arddull fod braidd yn heriol i ddealltwriaeth plant iau, ond dyma gyfle ir rheini sydd ym mlynyddoedd cynnar ysgolion uwchradd fwynhau stori hanesyddol sy'n llawn disgrifiadau bywiog a diddorol. Euryn Madoc-Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.