Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


O! Tyn y Gorchudd - Hunangofiant Rebecca Jones [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

About the Author

Angharad Price from Bethel, Caernarfon now lives in Cardiff and works in the research department at Cardiff University. Her first novel, Tania'r tacsi was published in 1999 and O tyn y gorchudd won the prestigious literary medal in the National Eisteddfod at St. Davids in 2002.

Reviews

Gofynnwyd am hunangofiant yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith 2002, ond ceir yma glasur o gofiant i deulu cyfan, oherwydd er mai Rebecca Jones sydd yn adrodd ei hanes, cawn yn ogystal hanes ei theulu cyfan - hanes teulu amaethyddol, o gefn-gwlad Sir Feirionnydd, sef teulu Tynybraich, Cwm Maesglasau. Dyma gyfrol fach sy'n hawdd i'w darllen ond eto sy'n em 'sy'n cyffwrdd dyn at ddagrau', ys dywedodd Hywel Teifi Edwards. Ceir yma yn wir y llon a'r lleddf, hiwmor iach a thristwch ingol. Ni allwn ond chwerthin yn aml ar droeon chwithig rhai o'r cymeriadau (megis y gyrrwr bws yn dweud wrth y dyn dall 'You need the green bus, mate'), ond yn fwy na dim mae pleser y gyfrol ym mhortreadau byw yr awdures; os oedd Lewis, un o'r brodyr, yn arlunydd da a'i baent, yna mae Angharad Price hithau wedi etifeddu'r un anian ac yn arlunydd gwych a'i geiriau. Llwydda i greu portreadau mor fyw fel eu bod yn dawnsio o flaen ein llygaid, yn enwedig felly yn fy marn i yn y portread o'r brawd dall, William - o'r manylder am lyfu label, ei natur gysetlyd a'i ysfa am annibyniaeth i'w ddirywiad poenus yn ei henaint. Ac yn y portreadau hyn fe'n gogleisir yn fwy na dim gan y cyfuniad gwefreiddiol o'r hyn y gwyddom sy'n ffaith a'r hyn a awgrymir sy'n ffrwyth dychymyg a phrofiad Angharad Price. Mae'r hanes a geir yma am deulu Dynybraich yn amlwg yn wir, a cheir ambell ffotograff ohonynt i brofi hynny; afraid dweud fod y gyfrol hon yn albwm geiriau anhygoel i'r teulu hwnnw. Chwaer taid yr awdures oedd Rebecca Jones, yr adroddwraig, ac wrth nodi aelodau cenedlaethau newydd y teulu, cydnebir bodolaeth Angharad Price ei hun yn y llinach deulu: 'a hwythau bellach yn nain a thaid i blant Wyn, sef Aled a Catrin, a phlant Mair, ac Emyr ei gwr, sef Irfon, Iolo ac Angharad'. Ond wedi'i weu drwy'r ffeithiol, mae elfen amlwg o ffuglen - yn bennaf oherwydd, mewn gwirionedd, bu farw Rebecca yn un ar ddeg oed, ac mae'r gyfrol hon yn 'deyrnged i'r bywyd y gallai fod wedi ei gael'. Ond mae'r cyfuno ffaith a ffuglen yn hynod ogleisiol - faint ohono yn wir a basiwyd i lawr drwy'r cenedlaethau a faint ohono sy'n gnawd o ddychymyg Angharad? Meddyliaf yn fwy na dim am hen-nain a hen-daid yr awdures: mae yma bortreadau mor llawn ohonynt, o Evan 'yn storiwr da' i'w wraig a'i ffydd gref yn Nuw. Eto, cynildeb y dweud sy'n taro i'r byw, yn enwedig y dioddefaint nas ymhelaethir arno - colli merch yn bythefnos oed, colli mab yn bump oed a chael tri mab dall, ac (er na ddigwydd hynny yng nghorff yr hunangofiant), o golli Rebecca a hithau'n un ar ddeg oed. Cwmpesir canrif gyfan bron a bod yn nhudalennau'r gyfrol, a cheir yma hanes newidiadau mewn cymdeithas gyfan yn ogystal ag yn y teulu penodol dan sylw. Teimlaf efallai fod y bennod olaf braidd yn rhy uniongyrchol ei neges, ac mai pennod gyntaf cofiant y byd sydd ohoni ydyw, yn hytrach na phennod olaf hanes cenhedlaeth taid yr awdures. Yn sicr, rhaid annog yr awdures i fynd ati i ysgrifennu rhagor; mae ei hiaith mor goeth, mor Gymreig, mor fyw, mae'n bleser pur i'w ddarllen - ac ni ellir ond dotio dro ar ol tro at yr eirfa, yr ymadroddion a'r disgrifiadau, e.e. 'Cychwynnem yn oriau man y bore, a'r diwrnod newydd yn troi'n las, yn binc, yn felyn, yn wyn, fel petai clais y nos yn gwella.' Mae hon yn gyfrol sydd wir yn werth ei darllen, a'ch colled chi fyddai peidio gwneud hynny. Gwenllian Dafydd Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.