Mae haf 2016 yn dal yn fyw yn y cof i gefnogwyr pêl-droed Cymru, ac
mae Fi a Joe Allen yn cynnig cyfle i ail-fyw cyffro’r cyfnod hwnnw
wrth i ni ddilyn Marc Huws, bachgen o Fangor, ar ei antur anfarwol
yn Ffrainc. Ond mae’n gymaint mwy na stori bêl-droed. Mae’n stori
am berthynas bachgen ifanc â’i fam a’i dad sydd wedi gwahanu – am
fam sydd yn gwneud popeth posib dros ei mab dan amgylchiadau anodd,
gan fynd dros ben llestri ar brydiau, ac am dad ‘prysur’ nad yw’n
dangos llawer o ddiddordeb ym mywyd Marc, nes i’r crysau cochion eu
harwain i Baris. Mae Manon Steffan Ros wedi defnyddio un o benodau
mwyaf gorfoleddus chwaraeon yng Nghymru i blethu’r elfennau yma at
ei gilydd yn deimladwy iawn, gan roi cipolwg sensitif i ni ar
deimladau bachgen y gall llawer iawn o ieuenctid Cymru uniaethu â
nhw o ganlyniad i dor priodas. Dyma gyfrol ysgafn-ddwys afaelgar
sydd yn llwyddo i’n tywys drwy iwfforia a thristwch a phryder.
Byddai pobl ifanc yn cael blas mawr arni heb os, boed nhw’n
ddilynwyr pêl-droed neu beidio, ond mae hi hefyd yn foeswers i
unrhyw riant fyddai’n ei darllen – mae’n fyfyrdod cynnil ar riantu
yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n dangos bod bywyd yn gyffredinol
yn debyg iawn i ddilyn tîm pêl-droed – mae’r llon a’r lleddf yn
anochel. Does dim yn gymhleth am yr iaith na’r arddull. Mae’r
Gymraeg yn naturiol a sgyrsiol braf. Iaith Marc ei hun ydi hon,
iaith y teras o’r gic gyntaf i’r chwiban olaf. Cefais bleser cynnes
o’i darllen, a gwefr o ailddathlu goliau Bale, Vokes, Taylor a
Robson Kanu, heb sôn am gyfarfod â Joe Allen ei hun! I’r
genhedlaeth iau mae’n taro cefn y rhwyd, ac i rai ychydig hŷn fel
fi mae’n ail blentyndod rhwng dau glawr.
*Morgan Jones @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |