Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Y Brenin Arthur [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Yn wahanol i Madog (2005) a Stori Dafydd ap Gwilym (2003) gan yr un awdur, mae’r gyfrol hon mewn fformat mwy, yn A4, ac yn debycach i Chwedl Taliesin (1992), Culhwch ac Olwen (1988) a’r Mabinogi (1984) a luniwyd gan yr un cyfuniad o awdur ac arlunydd a’u cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru. Clawr meddal sydd i’r Brenin Arthur, fodd bynnag, wedi ei gyhoeddi gan y Lolfa, a’r cyfan wedi ei ddylunio’n grefftus gan Olwen Fowler, un y mae ei gwaith bellach yn addurn ac yn gaffaeliad mawr i gynifer o lyfrau Cymraeg. Y mae popeth am Arthur yma, fwy neu lai, ar wahân i’r chwedl am Arthur a’i farchogion yn gorffwyso mewn ogof hyd nes y cenir y gloch i’w galw’n ôl i arwain Cymru unwaith eto – mae’n anodd cysoni ei fod yn yr ogof ac ar Ynys Afallon ar yr un pryd, ac eto . . .! Rhannwyd y testun yn bum adran ac mae’r adrannau hynny’n cynnig fframwaith cronolegol i’r chwedlau am Arthur. Yn yr adran gyntaf mae’r Sacsoniaid yn bygwth Dindaethwy ym Môn gan danlinellu’r galw am arweinydd cryf i arwain y Brythoniaid yn unedig yn erbyn y gelyn. Mae’r adran hon yn gyfle i gyflwyno rhai cymeriadau cefndirol, pobl fel Eigr mam Arthur, Uthr Bendragon a Myrddin y dewin. Yn yr ail adran adroddir hanes Arthur yn cael ei fagu’n wyllt gan Myrddin, ei hanes yn tynnu’r cleddyf o’r maen a thrwy hynny’n ennill gwrogaeth holl garfanau’r Brythoniaid; fe’i ceir yn ennill Caledfwlch, ei gleddyf ei hun, a gwraig – Gwenhwyfar. Adroddir sut y bu i’w chwaer, Morgana, fagu atgasedd tuag at ei brawd, a cheir peth o gyffro’r frwydr a fu rhyngddi hi a’i mab Medrawd yn erbyn Arthur. Yn dilyn ceir dwy adran lle’r adroddir y chwedlau rhyngwladol am Arthur a’i farchogion, sef Chwedlau’r Ford Gron a Chwedlau’r Saint Greal. Yma cawn anturiaethau caboledig, sifalrïaidd Geraint, Lawnslot a Gareth, a chawn ddilyn hanes y marchogion yn eu cais i ddarganfod y Greal Sanctaidd. Llwyddodd Gwyn Thomas i greu stori fywiog sy’n cysylltu’r Arthur brodorol a’r Arthur soffistigedig, cyfandirol. Mae’n anodd gwybod at ba oedran y targedwyd y gyfrol, ond fe ddylai cyfrol dda, ddeinamig fel hon apelio at bob oed. Mae lluniau Margaret Jones yn llai aml yma nag yn y cyfrolau fformat bach, ond yn rhai tudalen lawn pan ddigwyddant. Os am ramant Tintagel a Chamelot – hwn yw’r llyfr i chi!
*Dafydd Ifans @ www.gwales.com*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.