Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Ymbapuroli [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Rhy hir o lawer y bu’r disgwyl am gyfrol o ysgrifau Cymraeg, o ystyried llinach anrhydeddus y ffurf a’r bri mawr sydd arni o hyd. Fe aeth yr ysgrif yn ffurf ddieithr ac amheus i’r gweisg sefydledig, ond pe baem wedi gorfod aros deng mlynedd arall am gyfrol ohonynt yn ein hiaith, byddai wedi bod yn werth pob eiliad os taw hon oedd y gyfrol a arhosem amdani. Ceir yma amryffurfedd, lluosogrwydd ac amrywiaeth ochr yn ochr ag unfrydedd, unplygrwydd ac ymgolli yn y gwrthrych, y cyflwr, a’r lle unigol. Y tyndra celfydd a gosgeiddig hwn sy’n gwneud diffinio’r gyfrol yn orchwyl seithug.

Mae yna ysgrifau am Gymru, am Ewrop – am y byd. Ond nid oes ffiniau rhyngddynt: gwelwn Gymru’n rhan o’r byd mawr, a’r byd oll yng ngwead Cymru hithau. Delwedd addas yn hyn o beth yw honno sy’n agor ac yn cloi’r ysgrif am Jan Morris a’i gwaith (‘Ar Blyg y Map’), sef map o’r byd a roliwyd yn belen flêr. Mae’r ysgrifau’n cynnig cyfanwaith, ond heb golli golwg ar yr hyn a guddiwyd a’r hyn sy’n gwyro rhag ein syniadau cyffredin am gyflawnder a gorffennedd. Mewn ysgrifau fel ‘Bara Berlin yn Sling’ cawn brofiad sy’n pontio gofod ac amser, gan drosgynnu’r ffordd arferol o synio am lefydd fel petaent yn ddiriaethau disymud, terfynol. Mae gan yr awdures amgyffred miniog o fyd sy’n ‘ddim ond plygiadau’, ac yn y plygiadau hynny mae dod o hyd i ganfod am amgyffred amgen.

Un nodwedd sy’n haeddu sylw neilltuol yw’r defnydd ar iaith yn y gyfrol hon. Mae Angharad Price wedi hen fagu ieithwedd arbennig sy’n ymhyfrydu mewn geiriau morffolegol-luniaidd – fel y dengys teitl y gyfrol ei hun – ond heb ddieithrio’r darllenydd. Defnyddir iaith at bwrpas, a’i gwthio heb ofni mentro. Mae hi’n siapio iaith yn ôl anghenion ei mynegiant. Mae hynny’n rhyddhad yn y sin lenyddol sydd ohoni, sy’n gallu glynu’r rhy dynn at iaith lafar ei naws (neu syniad rhai pobl ynglŷn â beth yw iaith lafar).

Law yn llaw â’r iaith huawdl, ceir hefyd amrywiaeth braf o ran arddull. Bydd y gyfrol hon yn herio’r rhagdybiaethau bod yr ysgrif yn rhyw ymarferiad ymenyddol, neu gyfrwng hel atgofion cysglyd. Darllened y sawl sy’n rhagdybio felly ysgrif olaf y gyfrol hon, ‘Y Lôn Glai’. Dyma ddarn sy’n amlygu rhinweddau ffurf yr ysgrif: mae’n cyniweirio fel ysbryd ar drothwy’r llenyddol a’r ‘ffeithiol’, nes bod yna ddim trothwy o gwbl.
*Morgan Owen @ www.gwales.com*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
Item ships from and is sold by Fishpond World Ltd.

Back to top
We use essential and some optional cookies to provide you the best shopping experience. Visit our cookies policy page for more information.